Anfeidrol, fyth anfeidrol, Yw cariad Iesu gwiw; A ddichon ei amgyffred, Rhaid fod ei hun yn Dduw; Nid oes na sant na seraph, O'r ddaear faith i'r nef, All ddweyd yn llawn am dano, Na'i berffaith gynnwys ef. Rhyfeddol oedd y cariad At wael golledig ddyn; Rhy fach o le i'w gynnwys Oedd mynwes Duw ei hun: Fe redodd yn llifeiriol O'r nefoedd wen i lawr; Mae fel y môr yn esgyn I'r nefoedd eto'n awr. Un olwg ar yr Iesu Ar fynydd Calfari, A dyr y galed galon Anfoddlon ynof sy; Dystawa'r holl daranau, A'r bygythiadau gaed; Fe gwymp euogrwydd pechod I waelod môr o waed.David Thomas (Dafydd Ddu o Eryri) 1759-1822
Tonau [7676D]: gwelir: Rhan I - Pe buasai fil o fydoedd Rhan I/II - Pwy ddyry im' falm o Gilead Rhan III/IV - Gwell ganddo na halogi Rhan IV/V - Mae'r fath feddyliau mawrion Rhan V - 'N ol edrych ar ol edrych Fe gododd Haul Cyfiawnder Rhyfeddod oedd y cariad |
Immeasurable, forever immeasurable, Is the love of worthy Jesus; And sufficient to be grasped, That he himself must be God; There is neither saint nor seraph, From the vast earth to heaven, Who can tell fully about it, Nor its perfect contents. Wonderful was the love Towards poor, lost man; Too little of space to contain it Was the breast of God himself: It ran streaming From the blessed heavens down; It is like the sea ascending To the heavens still now. One look upon Jesus On the mount of Calvary, Will turn the hard, unwilling Heart which is in me; All the thunderings will fall quiet, And the threats there are; The guilt of sin shall fall To the bottom of a sea of blood.tr. 2016 Richard B Gillion |
|